P-03-144 Deiseb gan Cwn Tywys y Deillion

 

Geiriad y Ddeiseb

 

Yr ydym ni, y cynrychiolwyr a lofnodir isod, yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod cyfrifoldeb penodol ar awdurdodau lleol i fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd, a chydymffurfio â hwy drwy beidio â chreu canol trefi, strydoedd mawr na strydoedd preswyl gydag arwynebau a rennir sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol a phobl anabl eraill, gan eu hallgáu i bob pwrpas o amgylchedd y stryd.

 

Cyflwynwyd gan: Cwn Tywys y Deillion

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor y tro cyntaf: Mis Mehefin 2008

 

Nifer y llofnodion:10